Wal Dringo Symudol
Mae ein twr dringo yn 7.3medr o dal a chanddo amrywiaeth o wahanol
ddringfeydd sy'n addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Gallwn dynnu'r twr
gyda'n fan a'i danfon i leoliad o'ch dewis chi.
Mae'r twr yn cyrraedd gofynion Iechyd a Diogelwch Ewropeaidd ac mae ein holl
weithgareddau dringo wedi eu hyswirio. Mae'r holl offer diogelwch sydd yn
angenrheidiol, yn ogystal a chostau hyfforddwr cymwysiedig sydd â
chymhwyster Cymorth Cyntaf a CRB wedi ei gynnwys yn y gost o hurio'r wal.
Os fyddwch chi'n trefnu sioe, digwyddiad, diwrnod agored mewn coleg,
digwyddiad marchnata corfforaethol neu'n chwilio am weithgaredd ar gyfer
unrhyw achlysur, yna bydd y wal ddringo yn sicr o blesio.
Mae'n prisiau'n cychwyn o £250.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.